Rhif y ddeiseb: P-06-1320

Teitl y ddeiseb:  Dyrannu cyllid ychwanegol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot i sicrhau ei fod yn gynaliadwy

Geiriad y ddeiseb:

Bydd cynaliadwyedd y gwasanaethau llywodraeth leol sy'n cael eu darparu ledled Castell-nedd Port Talbot yn cael ei herio'n sylweddol os na ddarperir cyllid ychwanegol gan y Llywodraeth. Mae effaith barhaus Covid-19 a'r rhyfel yn Wcráin yn creu galw digynsail ar wasanaethau'r cyngor sydd eisoes dan straen. Rydym yn amcangyfrif diffyg o £5 miliwn ar gyfer 2022-23 ac £20 miliwn pellach ar gyfer 2023-24. Mae ein cymunedau’n cael trafferth ymdopi â’r argyfwng costau byw ac mae'n rhaid osgoi unrhyw gynnydd yn y dreth gyngor.

Mae angen digon o adnoddau ychwanegol arnom i'r Cyngor allu parhau i gefnogi ein cymunedau drwy'r argyfyngau hyn, cynnal y gwasanaethau hanfodol y mae pobl yn dibynnu arnynt a sicrhau gwelliannau tymor hir i les amgylcheddol, diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd ein trigolion. Heb yr arian hwn, yr unig ddewis arall yw torri swyddi a gwasanaethau, gan danseilio atebolrwydd democrataidd os collir gwasanaethau i'r sector preifat neu'r trydydd sector a disbyddu cronfeydd wrth gefn. Ar ôl dros ddegawd o fesurau cyni, nid oes opsiynau meddal ar ôl. Bydd addysg ein plant a'n pobl ifanc, gofal a chefnogaeth i blant a phobl agored i niwed (gan gynnwys rhai sy'n ddigartref, ffoaduriaid neu geiswyr lloches), cynnal a chadw tir y cyhoedd a gwasanaethau ehangach y Cyngor yn cael eu diraddio. Bydd telerau ac amodau llywodraeth leol yn disgyn ymhellach y tu ôl i gymaryddion y sector cyhoeddus a’r sector preifat sy'n dwysáu'r heriau o ddarparu adnoddau i'n sefydliad mewn marchnad lafur hynod gystadleuol.

 


1.        Cefndir

Y Setliad Llywodraeth Leol

Mae Llywodraeth Cymru yn dyrannu cyllid i awdurdodau lleol drwy ei Phrif Grŵp Gwariant Tai a Llywodraeth Leol (MEG). Y brif elfen o fewn y MEG yw'r Grant Cynnal Refeniw. Yng Nghyllideb Ddrafft 2023-24, dyrannodd Llywodraeth Cymru £4.5 biliwn mewn cyllid refeniw cyffredinol ar gyfer llywodraeth leol. Mae'r cyllid cyffredinol hwn yn cynnwys y Grant Cynnal Refeniw, sef y grant llywodraeth ganolog a drosglwyddir i awdurdodau lleol ac a ddefnyddir i ariannu gwariant refeniw i ddarparu gwasanaethau. Mae hyn yn gynnydd o £519 miliwn o’i gymharu â Chyllideb Derfynol 2022-23.

Mae'r Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol, a gyhoeddir ochr yn ochr â’r gyllideb ddrafft, yn cynnwys cyfanswm y cyllid y bydd llywodraeth leol yn ei gael ar gyfer y flwyddyn ariannol. Mae hyn yn golygu, yn ogystal â’r Grant Cynnal Refeniw (£4.49 biliwn yn 2023-24), bod y setliad dros dro hefyd yn cynnwys Ardrethi Annomestig wedi’u hailddosbarthu (sy’n cael eu hadnabod fel ardrethi busnes fel arfer).

Mae ardrethi annomestig yn cael eu casglu gan awdurdodau lleol, eu cronni gyda’i gilydd, a’u hailddosbarthu i bob awdurdod drwy’r fformiwla ar gyfer ariannu llywodraeth leol. Ar gyfer 2023-24, mae ychydig dros £1 biliwn o ardrethi annomestig wedi'i gynnwys yn y setliad. Mae’r cyllid craidd cyffredinol ar gyfer llywodraeth leol yn 2023-24 ychydig dros £5.5 biliwn. Mae hyn yn gynnydd o 7.9 y cant ar sail tebyg am debyg o’i gymharu â’r setliad terfynol ar gyfer blwyddyn ariannol 2022-23. 

Yn ogystal â’r cyllid craidd ar gyfer 2023-24, mae’r setliad hefyd yn cynnwys bron i £1.37 biliwn mewn cyllid grant penodol (er bod rhai grantiau penodol i’w penderfynu o hyd ac ni fydd y gwerthoedd yn ymddangos nes y caiff y Setliad Terfynol ei gyhoeddi). Mae hwn yn gyllid ar gyfer meysydd polisi wedi'u targedu, megis digartrefedd neu ryddhad ardrethi i fusnesau.

Mae'r setliad llywodraeth leol hefyd yn cynnwys cyllid grant cyfalaf sydd ar gael i lywodraeth leol. Mae £926 miliwn o gyllid cyfalaf wedi’i ddyrannu ar gyfer 2023-24, gan gynnwys £180 miliwn mewn cyllid cyfalaf cyffredinol ar gyfer awdurdodau lleol. Fel gyda grantiau penodol, mae rhywfaint o arian grant cyfalaf penodol eto i'w benderfynu. Mae gweddill y cyllid cyfalaf wedi’i dargedu at feysydd polisi penodol, megis Cymunedau Dysgu Cynaliadwy (Ysgolion yr 21ain Ganrif yn flaenorol) neu'r rhaglen Trawsnewid Trefi (buddsoddiad mewn adfywio trefi).

Y Fformiwla Ariannu

Mae'r setliad llywodraeth leol yn cael ei ddosbarthu i gynghorau ar sail fformiwla y cytunwyd arni gyda llywodraeth leol. Mae'r fformiwla yn cynnwys amrywiaeth o ddangosyddion sy'n ystyried nodweddion awdurdod lleol, megis; poblogaeth, teneurwydd y boblogaeth ac amddifadedd, ymhlith data eraill.

Caiff elfennau o'r fformiwla eu diweddaru'n rheolaidd, ac mae’r Is-grŵp Dosbarthu yn gyfrifol am gynnal y fformiwla. Mae’r Is-grŵp Dosbarthu yn cynnwys cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) ac aelodau annibynnol, ac yn gyfrifol am gynnal y fformiwla a chynghori Cyngor Partneriaeth Cymru a Gweinidogion Cymru ar faint o gyllid refeniw y mae pob awdurdod lleol yn ei gael.

Yn ystod y Cyfarfod Llawn ar 8 Mawrth 2022 atebodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol gwestiynau’r Aelodau ynghylch y fformiwla ariannu, gan nodi’r canlynol:

Mae'r cyllid craidd a ddarparwn i lywodraeth leol yn cael ei ddosbarthu, wrth gwrs, drwy fformiwla sefydledig a chaiff ei chreu a'i datblygu mewn cydweithrediad â llywodraeth leol a chytunir arni'n flynyddol gyda llywodraeth leol drwy is-grŵp cyllid cyngor partneriaeth Cymru.  Ac mae'r fformiwla'n rhydd o unrhyw agenda wleidyddol ac mae'n cael ei llywio gan ddata ac mae ganddi gefnogaeth ar y cyd gan lywodraeth leol.  Caiff y fformiwla ei llunio a'i llywodraethu yn y fath fodd fel na all unrhyw un awdurdod neu grŵp o awdurdodau neu wleidyddion ei defnyddio yn annheg, boed yn gynghorwyr a etholwyd yn lleol neu'n Weinidogion Llywodraeth Cymru.

Aeth y Gweinidog ymlaen i ddweud:

Byddai unrhyw newid i'r fformiwla, wrth gwrs, yn arwain at enillwyr a chollwyr, a gallai'r rhain fod yn sylweddol, a dyna pam yr wyf wedi dweud o'r blaen, os oes y math hwnnw o awydd ar y cyd gan lywodraeth leol i gael yr adolygiad sylfaenol hwnnw, yna wrth gwrs byddem yn gweithredu arno gyda'n gilydd.

Dosbarthiad Awdurdodau Lleol 2023-24

O ganlyniad i'r cynnydd cyffredinol o 7.9 y cant yn y setliad, ni ddisgwylir i unrhyw awdurdod gael llai na chynnydd o 6.5 y cant yn ei ddyraniad ar gyfer 2023-24.  Fodd bynnag, mae’r cynnydd cyffredinol yn is na’r hyn a gafwyd ar gyfer blwyddyn ariannol 2022-23, pan gafodd awdurdodau gynnydd cyffredinol o 9.4 y cant ar sail tebyg am debyg.  

Os na fydd y setliad yn newid yn y Gyllideb Derfynol, Sir Fynwy fydd yn cael y cynnydd mwyaf yn ei ddyraniad (9.3 y cant), gyda Chaerdydd yn agos y tu ôl (9 y cant), ynghyd â Bro Morgannwg a Chasnewydd (8.9 y cant i’r ddau). Blaenau Gwent fydd yn cael y cynnydd lleiaf, sef 6.5 y cant. Disgwylir i Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot gael cynnydd o 7.1 y cant yn ei ddyraniad ar gyfer 2023-24.

Mae'r tabl isod yn dangos y swm dros dro y bydd pob awdurdod lleol yn ei gael yn y Cyllid Allanol Cyfun (cyfanswm y Grant Cynnal Refeniw ac ardrethi annomestig) ar gyfer 2023-24, a'r gwahaniaeth canrannol o'i gymharu â'r flwyddyn gyfredol (2022-23). Mae wedi'i restru mewn trefn, o'r uchaf i'r isaf er hwylustod.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cyhoeddi manylion gwariant fesul pen, hynny yw, maint y cyllid craidd fesul pen yn ôl ardal awdurdod. Mae’r ffigurau fesul pen isod yn seiliedig ar gyfartaledd poblogaeth 2023 o’r amcanestyniadau o boblogaeth awdurdodau lleol yn 2018 a data poblogaeth Cyfrifiad 2021. 

Nid yw’r ffigurau hyn yn ystyried ffrydiau cyllid neu incwm eraill awdurdodau lleol, megis refeniw’r dreth gyngor, cyllid grant penodol, neu ffrydiau ariannu eraill drwy Lywodraeth y DU.

2.     Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Mae'r Gweinidog yn nodi mewn papur tystiolaeth a gyflwynwyd i'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thaicyn gwaith craffu ar y gyllideb ddrafft, “nid ystyriwyd unrhyw doriadau i'r setliad llywodraeth leol fel rhan o ymarfer ehangach Llywodraeth Cymru i addasu cyllidebau”, mewn ymgais i warchod gwasanaethau cyhoeddus.

Mewn llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol at awdurdodau lleol, mae’r Gweinidog yn nodi’r canlynol: 

Mae'r Setliad hwn yn rhoi llwyfan sefydlog i chi ar gyfer cynllunio'ch cyllidebau ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod a thu hwnt.

Cydnabu’r Gweinidog hefyd y cyd-destun heriol ar gyfer cyllidebau awdurdodau lleol a’r penderfyniadau anodd sydd o’u blaenau:

Er bod hwn yn Setliad cymharol dda, sy’n adeiladu ar y gwell dyraniadau a gafwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rwy'n cydnabod bod y cyfraddau chwyddiant a brofwyd dros y misoedd diwethaf, a'r rhagolygon gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol y bydd lefelau chwyddiant sylweddol yn parhau, yn golygu y bydd angen i chi wneud penderfyniadau anodd o hyd wrth osod eich cyllidebau.

Mae cyfnod ymgynghori o saith wythnos gydag awdurdodau lleol wedi dechrau ynghylch y dyraniad o fewn y setliad dros dro llywodraeth leol, a disgwylir ymatebion ar 2 Chwefror 2023.

3.     Camau gweithredu Senedd Cymru

Bydd y Senedd yn trafod Cyllideb Ddrafft 2023-24 ar 7 Chwefror 2023a gellir ei weld ar Senedd TV. I Bwyllgorau’r Senedd a fu’n craffu ar y gyllideb ddrafft mewn perthynas â’u cylch gwaith, y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiadau yw 6 Chwefror 2023.

Bu’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai yn craffu ar waith y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ar 12 Ionawr 2023. Ffocws y sesiwn graffu oedd y setliad llywodraeth leol. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth hefyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn ystod yr un sesiwn.

Bu’r Pwyllgor Cyllid yn gwneud craffu cyllidebol ar waith y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ar 14 Rhagfyr 2022. Y ffocws oedd cyllideb Llywodraeth Cymru yn ei chyfanrwydd. Clywodd y Pwyllgor Cyllid dystiolaeth hefyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar 19 Ionawr 2023 a chynhaliodd waith craffu pellach ar waith y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol. Yn ystod y sesiwn pwyllgor hon, dywedodd y Cynghorydd Anthony Hunt, Arweinydd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen y canlynol:

The provisional settlement was certainly welcomed and shows, I think, that the Welsh Government are trying their best to prioritise public services. The pressures on us are huge, so it doesn't mean it's going to be easy setting budgets. We estimated around £784 million of pressures by the end of the next financial year. That's a huge amount of pressure. In my own council, for example, our energy bill's going up by £4 million, our social care contracting bill by £4 million, our pay bill by just over £7 million. So, there are huge pressures in the system, but I think the settlement that we've got enables us to have a fighting chance of at least trying to address those pressures so that they don't become catastrophic for the future of the services that we provide.

Ar 28 Chwefror 2023, cyhoeddir Cyllideb Derfynol 2023-24, gyda dadl ar y Gyllideb Derfynol yn y Cyfarfod Llawn ar 7 Mawrth 2023.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r papurau briffio hyn o reidrwydd yn cael eu diweddaru na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.